HaydnTHOMASSheaf Yn dawel yn ei gartref ar 2il o Ebrill 2019 hunodd Haydn, Penbryn Parc, Bancyfelin, Caerfyrddin. Priod ffyddlon Elizabeth, tad cariadus Winsor a Richard, tad-cu arbennig James, Lewis, Daniel, Rhys a Iestyn, tad-yng-nghyfraith Eirian a Delyth a brawd annwyl Hugh. Angladd dydd Iau, 11eg o Ebrill. Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghapel Bancyfelin am 1.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig. Cyfraniadau er cof, os dymunir, tuag at Motor Neurone Disease Association trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 241626
Keep me informed of updates